WIsH - Arloesedd Gofal lechyd Cymru


English Version

Beth yw ED?

Eiddo deallusol (ED) yw canlyniad diriaethol gweithgarwch deallusol neu greadigol ar ffurf syniadau a gwybodaeth newydd. Gall gynnwys arloesiadau, prosesau diwydiannol, meddalwedd, data, gwaith ysgrifenedig, dyluniadau a delweddau. (Defnyddir y term arloesiad yn fwy cyffredinol i gynnwys yr holl agweddau hyn ar ED.) Mae’n nwydd y gellir ymelwa arno trwy drwyddedu, gwerthu neu brynu.

Gwarchodir ED gan Hawliau Eiddo Deallusol (Hawliau ED). Ymhlith y mathau o Hawliau ED mae:

  • Patentau

    yn rhoi gwarchodaeth gyfreithiol i arloesiadau am gyfnod o hyd at 20 mlynedd. Mae patent yn hawl fonopoli sy’n caniatáu i berchennog y dyfeisiad patentedig atal pobl eraill rhag defnyddio neu ymelwa ar y dyfeisiad am fydd masnachol heb ganiatâd. Er mwyn cael patent, mae’n rhaid i’r dyfeisiad fod yn newydd, rhaid iddo beidio â bod yn amlwg a rhaid bod rhyw ddefnydd ymarferol iddo Gall cadw gwarchodaeth batent fod yn gostus iawn, yn enwedig os caiff y warchodaeth ei hymestyn i wledydd eraill yn ogystal â’r DG.

  • Hawlfraint

    math o hawl eiddo deallusol sy’n gwarchod amrywiaeth eang o ddeunydd gan gynnwys gwaith ysgrifenedig, darluniau, meddalwedd a chronfeydd data, cerddoriaeth a gweithiau dramatig (e.e. darn chwarae rôl). Mae hawlfraint yn hawl awtomatig; nid oes rhaid ei chofrestru ac unwaith y caiff gwaith ei greu bydd hawlfraint yn dod i rym. Mae hawlfraint yn rhoi hawl i’r perchennog reoli’r defnydd o’i ddefnydd. Mae hefyd nifer o hawliau sy’n ategi hawlfraint, e.e. hawl cronfa ddata, hawl feddalwedd.

  • Hawl Ddylunio Anghofrestredig

    defnyddir i warchod dyluniadau ymarferol. Fel hawlfraint, mae’r hawl ddylunio anghofrestredig yn hawl awtomatig ac nid oes angen ei chofrestru. Mae’r hawl yn gwarchod dogfen ddylunio a / neu eitem 3-dimensiwn a wneir gan ddefnyddio’r dyluniad. Mae enghreifftiau o gynhyrchion y gellir eu gwarchod gan hawliau dylunio anghofrestredig yn cynnwys dyfeisiau meddygol, cylchedwaith electronig a chymhorthion anabledd. Yn y DG, gellir gwarchod dyluniadau am hyd at 15 mlynedd o greu’r dyluniad. Mae’r hawl ddylunio anghofrestredig Ewropeaidd yn gwarchod dyluniadau am hyd at 3 blynedd.

  • Hawl Ddylunio Gofrestredig

    hawl fonopoli a ddefnyddir i warchod nodweddion allanol dyluniad ac fe’i defnyddir yn bennaf i warchod dyluniad esthetig (atyniadol). Er mwyn bodloni’r meini prawf ar gyfer gwarchodaeth dan yr hawl ddylunio gofrestredig, mae’n rhaid i’r dyluniad fod yn newydd a bod â chymeriad unigol. Mae enghreifftiau o nwyddau a warchodir gan hawl ddylunio gofrestredig yn cynnwys motiff ar decstilau neu siâp newydd ar gyfer mewnanadlydd. Rhaid gwneud cais am warchodaeth hawl ddylunio gofrestredig a chodir tâl. Gall hawl ddylunio gofrestredig bara am hyd at 25 mlynedd yn amodol ar ffioedd adnewyddu.

  • Nodau Masnach

    arwyddion neu symbolau a ddefnyddir i wahaniaethu nwydd neu wasanaeth busnes oddi wrth nwyddau neu wasanaethau busnesau eraill. Mae nodau masnach yn help i’r perchennog sefydlu bran sy’n wahanredol a thrwy hynny’n hawdd ei adnabod o blith nwyddau neu wasanaethu tebyg. Rhaid cofrestru nodau masnach a gallant bara am byth yn amodol ar dalu’r ffioedd adnewyddu bob 10 mlynedd. Mae enghreifftiau’n cynnwys enwau brand meddyginiaethau a logo’r GIG.

  • Gwybodaeth Ymarferol

    (neu wybodaeth gyfrinachol) gellir ei gwarchod ar yr amod bod y wybodaeth a warchodir yn gyfrinachol a bod rhyw werth masnachol iddi. Gwarchodir y wybodaeth gan gyfraith gyfrinachedd ac fel arfer fe’i gwarchodir trwy ddefnyddio cytundeb ysgrifenedig. Gall enghreifftiau o wybodaeth ymarferol gynnwys gwybodaeth ar destun patent (cyn gwneud cais am batent / cyhoeddi), prosesau diwydiannol neu wybodaeth a ddatgelir i gwmni dan ymgynghoriaeth (e.e. ffordd newydd o wneud profion gwaed).