WIsH - Arloesedd Gofal lechyd Cymru


English Version

Hawl Ddylunio Anghofrestredig

Nid yw Hawliau Dylunio Anghofrestredig yn uniongyrchol gysylltiedig ag ymddangosiad. Gall yr hawl warchod nodweddion mewnol ac allanol ond mae’n gwarchod yn erbyn copïo nodweddion siâp a ffurfwedd (e.e. cynllun ffisegol sglodion cyfrifiadurol, cydrannau peirianegol a darluniadau pensaernïol).

Nid yw Hawl Ddylunio yn hawl fonopoli . Fodd bynnag, mae yn gwarchod yn erbyn copïo bwriadol ac yn para am 10 mlynedd o’r marchnata cyntaf, hyd ar derfyn o 15 mlynedd o greu’r gwaith. Mae hawl ddylunio yn neilltuedig am y 5 mlynedd gyntaf ar ôl marchnata; yn y pum mlynedd olaf gall unrhyw un gael trwydded i ddefnyddio’r cynllun yn amodol ar dalu breindaliadau (Trwydded Hawl). Gall Hawl Ddylunio fodoli yn ogystal â mathau eraill o warchodaeth megis Patent, Hawlfraint neu Ddyluniad Cofrestredig.

Yn wahanol i Gofnodi Dyluniad, ni wneir cais am Hawl Ddylunio. Pan gaiff dyluniad newydd ei greu yn y DG neu Ewrop, dylai’r awdur lofnodi a dyddio unrhyw ddarluniau, ffeiliau data neu brototeipiau. Dylid cadw’r darluniadau a phrototeipiau gwreiddiol mewn man diogel. Er y gellir dibynnu ar hawl ddylunio yn y Deyrnas Gyfunol, nid yw’r un warchodaeth fel arfer ar gael mewn gwledydd tramor ac os byddwch yn ceisio gwarchodaeth dramor, argymhellir yn gryf i chi gyflwyno cais am Ddyluniad Cofrestredig.