WIsH - Arloesedd Gofal lechyd Cymru


English Version

Nodau Masnach

Mae nod masnach yn arwydd neu symbol a ddefnyddir i wahaniaethu cynnyrch neu wasanaeth oddi wrth yr hyn a gynhyrchir neu a gyflenwir gan fusnes arall. Gallai fod yn gynllun label neu siâp pecyn cynnyrch (er enghraifft potel Coca-Cola). Mae’r gair “arwydd” yn cynnwys logos, sloganau, geiriau, lliwiau a siapau 3-D.

Mae cofrestru nod masnach yn gwarchod y perchennog rhag cystadleuwyr sydd hefyd yn ceisio defnyddio’r ddelwedd honno i hyrwyddo’u cynhyrchion eu hunain. Gall nodau masnach fod yn werthfawr iawn wrth gadw’r cynnyrch ar frig y farchnad.

Yn y blynyddoedd diwethaf (Deddf Nodau Masnach 1994) mae’r broses geisio wedi ei symleiddio a’i chyflymu. Mae hyn yn cymryd anghenion diwydiant a masnach i ystyriaeth ac wedi cysoni cyfreithiau’r DG â gwledydd eraill yn yr UE a gwledydd eraill. Gellir dal nod masnach am gyfnod penagored, yn amodol ar adnewyddu bob 10 mlynedd.