WIsH - Arloesedd Gofal lechyd Cymru
Y Bartneriaeth
Sefydlwyd WisH gan Lywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn darparu adnoddau cychwynnol ar gyfer adnabod ac ymelwa ar arloesiadau ac eiddo deallusol yn y GIG.
Dyfarnwyd y contract i greu WIsH i bartneriaeth rhwng Angle Technology a TrusTECH®.
Daw’r bartneriaeth ag arbenigedd rheoli eiddo deallusol a masnacheiddio sylweddol i WIsH.
Mae ANGLE Technology yn gwmni ymgynghori a gweithredu arbenigol sy’n ymroddedig i bob agwedd ar ddatblygu diwydiannau sy’n seiliedig ar dechnoleg, gan gynnwys:
- ymelwa’n fasnachol ar ymchwil a thechnoleg er enghraifft gweithio gyda phrifysgolion a chanolgannau ymchwil eraill i sbarduno incwn masnachol.
- datblygu a gweithredu gwasanaethau cefnogi ac isadeiledd megis crudau cynnal, unedau cefnogi diwydiannol a rhaglenni sgiliau;
- cynghori’r Llywodraeth ac asiantaethau datblygu ar bolisïau a rhaglenni i ysgogi datblygu diwydiant technoleg;
- Ymgynghoriaeth a chyfranogiad o gwmnïau technoleg sy’n tyfu yn enwedig ym maeysydd codi arian, caffael a strategaethau mynediad i farchnadoedd, yn ogystal ag esgor ar gwmnïau a thrwyddedu technoleg i gwmnïau technoleg mwy - mae ANGLE wedi datblgyu ei bortffolio ei hun o gwmnïau technoleg cryf a bu cryfder patrwm mentro’r Cwmni yn ffactor allweddol yn ei lansiad llwyddianus ac enw da parhaus y Grŵp ymhlith buddsoddwyr, rheolwyr busnes a rhanddeiliaid technoleg.
Mae TrusTECH yn rhan o rwybdwaith arloesiadau Hub y GIG ledled Lloegr. Mae TrusTECH yn darparu gwasanaethau arloesi a rheoli eiddo deallusol i fwy na 60 o sefydliadau GIG ar draws Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr. Mae gan TrusTECH dîm arbenigol sydd â phrofiad helaeth o weithio gyda staff y GIG ac yn deall natur diwylliant trefniadaethol y GIG o ran rheoli ac ymelwa ar arloesiadau. Mae gan TrusTECH brofiad helaeth o fargeinion trwyddedu sy’n seiliedig ar ED y GIG a gwasanaethau Ymchwil a Datblygu a gwasanaethau cysylltiedig â busnes.