WIsH - Arloesedd Gofal lechyd Cymru


English Version

Dyluniadau Cofrestredig

Gyda rhai nwyddau newydd, nid syniad newydd yw'r newydd-deb ond ymddangosiad y cynnyrch. Bydd dyluniad cofrestredig yn rhoi monopoli i’r perchennog dros ymddangosiad ei ddyluniad fel y’i cymhwysir i nwydd arbennig. Bydd hynny’n rhoi hawl i’r perchennog atal pobl eraill rhag gwneud, defnyddio neu werthu’r eitem heb ganiatâd. Fel arfer bydd hawliau dyluniad cofrestredig yn berthnasol i wrthrychau masnachol ag ymddangosiad unigryw neu esthetig.

Mae dyluniad cofrestredig lawer iawn rhatach ei gael na phatent. Rhaid cyflwyno darluniau neu ffotograffau sy’n dangos yr eitem sy’n perthyn i’r cynllun i’r Gofrestrfa Dyluniadau, ac os bydd y darluniau neu ffotograffau hyn yn ateb gofynion y Gofrestrfa bydd y cais yn symud yn syth i gofrestru heb lawer o wrthwynebiad neu efallai heb ddim. Felly, mewn llawer achos, ni fydd costau ar ôl cyflwyno’r cais gwreiddiol. Mae dyluniad cofrestredig yn bodoli i ddechrau am 5 mlynedd o’r cais, a gellir ymestyn y cyfnod hwn i gyfanswm o 25 yn amodol ar dalu ffioedd adnewyddu bob pum mlynedd.

 

Camau Ceisiadau Dyluniadau

1.

Cyflwyno Cais am Ddyluniad Cofrestredig

2.   O fewn 6 mis

Cyflwyno Ceisiadau am Ddyluniadau Tramor

 

Cyfanswm amser Cofrestru 6 - 12 mis