WIsH - Arloesedd Gofal lechyd Cymru


English Version

Patentau

Mae patent yn hawl gyfreithiol sy’n rhoi monopoli i berchennog y arloesiad am hyd at 20 mlynedd. Mae patent yn caniatáu i berchennog y arloesiad patentedig atal pobl heb awdurdod rhag defnyddio neu ymelwa ar y arloesiad am fudd masnachol.

Er mwyn cael patent ar gyfer arloesiad mae’n rhaid bodloni’r meini prawf a ganlyn:

  • Newydd-deb

    Rhaid i’r dyfeisiad fod yn newydd. Mae’n rhaid iddo fod heb ei ddatgelu i’r cyhoedd yn unman yn y byd cyn y dyddiad gwneud cais am batent (oni bai iddo gael ei ddatgelu dan gytundeb cyfrinachedd). Mae datgelu’r wybodaeth yn cynnwys cyhoeddiadau, cyflwyniadau, arddangosfeydd a hyd yn oed sgyrsiau anffurfiol. Gelwir gwybodaeth sydd yn y bau gyhoeddus a all herio newydd-deb patent yn ‘gelf flaenorol’.

  • Cam Dyfeisgarwch

    Rhaid i’r arloesiad beidio â bod yn amlwg o’i gymharu â’r hyn sydd eisoes yn wybodus i berson sy’n hyddysg yn y maes.

  • Cymhwysiad Diwydiannol

    Rhaid bod rhyw ddefnydd ymarferol i’r arloesiad h.y. gellir ei wneud neu ei ddefnyddio gan ddiwydiant (yn yr ystyr ehangaf)

  • Eithriadau

    Mae rhai mathau o arloesiadau wedi eu heithrio’n benodol o warchodaeth patent. Mae’r rhain yn cynnwys darganfyddiadau, gweithiau celf, algorithmau mathemategol a damcaniaethau gwyddonol. Mae rhai mathau o driniaeth neu ddulliau o wneud diagnosis hefyd wedi eu heithrio (ac eithrio yn yr Unol Daleithiau) ond gellir cael gwarchodaeth batent i ddeunydd fferyllol a phecynnau diagnostig.

Os credir bod arloesiad yn bodloni’r meini prawf uchod, gellir gwneud cais i Swyddfa Batentau’r DG am batent yn y DG. Yna bydd y cais yn destun i nifer o chwiliadau ac archwiliadau gan Swyddfa Batentau’r DG i benderfynu a yw’r arloesiad yn bodloni’r meini prawf ar gyfer cyflwyno patent. Gall y broses hon gymryd hyd at 4½ blynedd o ddyddiad y cais ond os caniateir y patent, bydd yn atal eraill rhag cynhyrchu neu ymelwa ar y arloesiad patentedig yn y DG.

Unwaith y caiff cais cychwynnol ei gyflwyno i Swyddfa Batentau’r DG, gellir hefyd geisio gwarchodaeth batent ryngwladol trwy lenwi ceisiadau am batentau dramor. Mae nifer o ffyrdd o gael gwarchodaeth batent ryngwladol. Gellir llenwi ceisiadau unigol am batentau ym mhob gwlad berthnasol, ond mae hyn yn golygu paratoi ceisiadau patent ar wahân ar gyfer pob gwlad a gall achosi costau sylweddol i ddechrau. Fel arall, gellir cyflwyno cais unigol am batent Ewropeaidd dan delerau Confensiwn Patentau Ewrop (EPC) sy’n cynnwys tua 23 o wledydd Ewrop gan gynnwys y DG. Os oes angen gwarchodaeth ehangach, gellir cyflwyno ceisiadau dan Uwch-gytundeb Cydweithredu ar Batentau (PCT) sy’n cynnwys y DG a thua 190 o wledydd o amgylch y byd. Mae llwybrau EPC a PCT yn cynnig y fantais o ohirio penderfynu ynghylch pa wledydd i geisio am warchodaeth ynddynt a gall gadw’r costau cychwynol yn is ond yn y pen draw bydd rhaid ceisio am batentau unigol ym mhob gwlad. Mae’n bwysig nodi oni wneir cais am batent y DG bod rhaid cael caniatâd Swyddfa Batentau'r DG cyn gwneud cais dramor.

Mae cael a chadw gwarchodaeth batent yn broses fanwl a pharhaus a all fod yn gymhleth a drud, yn enwedig pan geisir gwarchodaeth mewn sawl gwlad. Fodd bynnag, gall patent fod yn gaffaeliad gwerthfawr y gellir ymelwa arno er mwyn adennill y ffioedd hyn a chynhyrchu incwm pellach.

Cwestiynau a ofynnir fwyaf

Pam mae patentau’n bwysig?

Mae datblygu technoleg neu therapi newydd yn golygu buddsoddi llawer o amser, sgil, adnoddau ac arian, yn enwedig ym maes fferylliaeth lle gall datblygu a phrofi cyffur newydd gostio degau neu gannoedd o filiynau o bunnau! Gall patentau warchod y buddsoddiadau hyn a galluogi perchnogion patentau a datblygwyr cynhyrchion i adennill eu costau datblygu a chreu ffynhonnell o incwm.

Sut gellir defnyddio patentau i greu incwm?

Mae patentau’n eiddo gwerthfawr y gellir eu prynu, gwerthu neu hyd yn oed eu prydlesu, yn union fel unrhyw eiddo arall. Yn aml bydd diddordeb gan gwmnïau mewn trwyddedu (prydlesu) neu brynu’r hawliau i gynhyrchu a gwerthu arloesiad a byddant yn talu perchennog y patent am y fraint. Mae trwyddedu yn ffordd gyffredin o ymelwa gan ei fod yn caniatáu i’r perchennog gadw rhai hawliau yn y arloesiad ac ar yr un pryd gael incwm o ddefnydd y cwmni o’r arloesiad a’u gwerthiannau.

Sut byddaf yn gwybod os yw fy nyfeisiad yn wreiddiol?

Mae’n anodd iawn bod yn sicr a yw eich arloesiad yn wreiddiol neu eisoes yn y bau gyhoeddus. Mae'r rhyngrwyd yn fan dechrau da a gall peiriannau chwilio megis ‘Google TM’ fod yn ddefnyddiol ar gyfer chwilio gydag allweddeiriau. Gall cronfeydd data megis Esp@cenet helpu i ddarganfod a oes patent eisoes wedi ei ddyfarnu i rywun arall a gall chwilio cronfeydd data megis PubMed® neu MEDLINE® hefyd fod yn ddefnyddiol.

Hoffwn gyhoeddi fy ngwaith. A fydd hyn yn peryglu cais am batent?

Ni fydd gwaith a gyhoeddwyd neu a gyflwynwyd yn gyhoeddus eisoes yn gymwys i’w warchod gan batent. Os credwch y gellir cael patent ar gyfer eich gwaith, mae’n syniad da oedi cyn cyhoeddi a chyflwyno nes i’r gwaith gael ei asesu ac, os oes angen, i gais am batent gael ei baratoi a’i gyflwyno. Os oes angen cyhoeddi ar frys, mae’n bosibl paratoi a chyflwyno cais am batent yn gymharol gyflym, fodd bynnag gallai hyn fod â goblygiadau pwysig i ddyfodol eich patent, yn enwedig os oes angen datblygu’r arloesiad ymhellach.

Ydy rheolau a meini prawf gwarchodaeth batent yn amrywio o wlad i wlad?

Gall rheolau a meini prawf gwarchodaeth batent fod yn wahanol mewn gwahanol wledydd. Er enghraifft, yn wahanol i’r rhan fwyaf o wledydd, yn yr Unol Daleithiau y cyntaf i ddyfeisio yn hytrach na’r cyntaf i wneud cais am batent sy’n cael y flaenoriaeth.

Beth ddylwn ei wneud os byddaf i wedi dyfeisio rhywbeth ac yn meddwl y gellir cael patent amdano?

Cadwch gofnodion manwl o ble a phryd gwnaethoch y arloesiad a chadwch fanylion y arloesiad yn gyfrinachol. Trafodwch y gwaith gyda’r Rheolwr Ymchwil a Datblygu a/neu gynrychiolydd WisH. Efallai bydd hwnnw’n gofyn i chi lenwi cofnod dyfeisio i helpu asesu eich arloesiad a chynorthwyo wrth ddatblygu eich syniadau ymhellach.