WIsH - Arloesedd Gofal lechyd Cymru


English Version

Gwybodaeth Ymarferol

Mae gwybodaeth ymarferol yn wybodaeth nad yw efallai wedi ei gwarchod gan hawliau eiddo deallusol eraill ond sydd o werth. Dylai'r wybodaeth fod yn gyfrinachol ei natur a gellir ei diffinio fel gwybodaeth sy’n gyfrinachol a gwerthfawr. Ymhlith enghreifftiau o wybodaeth ymarferol mae gwybodaeth arbenigol sydd ei hangen i ddatblygu/rhedeg meddalwedd neu’r wybodaeth sydd ei hangen i ddylunio/gwella dyfais feddygol er mwyn cael mwy o fudd clinigol. Gellir cynhyrchu gwybodaeth ymarferol gydag amser ac mae’n aml iawn yn gysylltiedig â’r arbenigedd sydd ei angen i gyflawni gweithgareddau pob dydd yn y GIG (e.e. trin cleifion, defnyddio cyfarpar arbenigol). Bydd cwmnïau/sefydliadau allanol yn aml yn cyflogi arbenigwr / ymgynghorwr er mwyn ‘prynu’ gwybodaeth ymarferol datblygu a marchnata cynhyrchion i’w defnyddio mewn gofal iechyd.

Mae gwybodaeth ymarferol yn anodd ei diffinio’n fanwl ac o’r herwydd gall fod yn anodd ei phrisio. Fodd bynnag, mae llawer o arloesiadau sydd wedi dod o’r GIG wedi eu datblygu trwy drosglwyddo gwybodaeth ymarferol heb unrhyw fath o hawliau eiddo deallusol cysylltiedig.

Gwarchod Gwybodaeth Ymarferol

Gwarchodir gwybodaeth ymarferol gan gyfraith cyfrinachedd a thrwy gytundeb ysgrifenedig.

Pan ddatgelir gwybodaeth ymarferol, mae’n well gwneud hyn dan warchodaeth Cytundeb Datgelu Cyfrinachol (CDA), a elwir hefyd yn Gytundeb Cyfrinachedd neu Gytundeb Peidio â Datgelu (NDA).

Caiff CDA, sy’n diffinio’r gwybodaeth ymarferol sydd i’w datgelu, ei lofnodi gan lofnodwr awdurdodedig ar ran yr holl sefydliadau sy’n gysylltiedig.

Gall y CDA ymdrin â gwybodaeth a ddatgelir gan un parti neu’r holl bartïon e.e. pan fydd gan Ymddiriedolaeth GIG wybodaeth ymarferol sy’n ymwneud â dylunio neu farchnata cynnyrch.

Dylid llofnodi’r cytundeb cyn datgelu unrhyw wybodaeth. Mae hyn yn gwarchod cyfrinachedd a pherchnogaeth y wybodaeth ymarferol fel na all y parti arall ddefnyddio’r wybodaeth werthfawr hon heb ganiatâd y datgelwr neu heb unrhyw fudd i’r datgelwr.

Ymelwa ar Wybodaeth Ymarferol

Fel mathau eraill o eiddo deallusol, gellir trwyddedu (prydlesu) gwybodaeth ymarferol i eraill dan gytundeb trwyddedu. Mae hyn yn caniatáu i berchennog y wybodaeth ymarferol reoli sut caiff y wybodaeth ei defnyddio neu i gyfyngu ei defnydd i faes ymchwil penodol. Gall hyn fod yn ddefnyddiol lle gellir cymhwyso gwybodaeth ymarferol at nifer o feysydd, e.e. technoleg delweddu ar gyfer diagnosteg feddygol ac ar gyfer cymwysiadau diogelwch.