WIsH - Arloesedd Gofal lechyd Cymru
ED a'r GIG
Pam trafferthu i ddiogelu eich ED?
Yn syml iawn, gwarchod ED yw'r ffordd orau o atal pobl eraill rhag copïo’r gwaith. Mae’n rhoi hawl neilltuedig i ddefnyddio’r arloesiad neu i ganiatáu i eraill ei ddefnyddio dan delerau penodol.
I Ymddiriedolaethau’r GIG, gall ED fod yn sail i gydweithio â phrifysgolion a diwydiant a gall ddenu arian ar gyfer ymchwil pellach a gall datblygu ac ymelwa ar ED gwarchodedig arwain at fudd ariannol i’r perchennog a’r dyfeisiwr fel ei gilydd.
Pwy sy’n berchen ar yr ED?
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y patent neu Hawl Eiddo Deallusol arall yn eiddo i’r sefydliad GIG sy'n cyflogi’r gweithiwr dan delerau’r contract cyflogaeth a chan gymryd bod y arloesiad yn berthnasol i faes busnes y cyflogwr. Ymdrinnir â hawl berchnogaeth y perchennog yn Neddf Patentau 1977 a Deddf Hawlfraint Dyluniadau a Phatentau 1988. Os caiff y gwaith ei wneud fel rhan o fenter gydweithredol neu fargen nawdd sy’n cynnwys, er enghraifft, sefydliadau ymchwil, cwmnïau neu gyrff dyfarnu grantiau eraill, yna mae perchnogaeth unrhyw Hawl Eiddo Deallusol (HED) sy’n deillio yn fwy cymhleth. Mae’n syniad da trafod perchnogaeth HED cyn dechrau ar y gwaith. Mae gan y rhan fwyaf o Gynghorau Ymchwil a chyrff dyrannu grantiau bolisïau ar berchnogaeth ED.
Wrth lenwi cais am batent, nodir y dyfeisiwr/wyr. Felly os bydd Ymddiriedolaeth GIG yn hawlio perchnogaeth, caiff y gweithiwr/wyr perthnasol ei enwi/eu henwi fel dyfeisiwr/wyr. Mae’n rhaid i ddyfeisiwr fod wedi gwneud cyfraniad deallusol creadigol a rhaid nodi pob dyfeisiwr neu mae’n bosibl na chaiff y patent ei ganiatáu neu y caiff y caiff ei ddiddymu. Nid yw cydweithiwr neu gydymaith sydd wedi cyflwyno data ategol yn cyfrif fel dyfeisiwr. Efallai bydd y dyfeiswyr yn gymwys ar gyfer gwobr gan eu cyflogwr ond nid yw’r gyfraith yn mynnu hyn a bydd yn dibynnu ar y contract perthnasol.
Er bod y cyflogwr yn gallu hawlio perchnogaeth yr ED, yn y rhan fwyaf o Brifysgolion a mwyfwy mewn Ymddiriedolaethau GIG, ceir darpariaeth i’r dyfeisiwr/wyr elwa’n ariannol os yw’r arloesiad yn llwyddiant masnachol.
Sut mae HED yn cynhyrchu incwm?
Gellir ennill incwm trwy drwyddedu, gwerthu neu aseinio hawliau eiddo deallusol. Gan fod gwarchod ED yn gallu bod yn broses ddrud a llafurus, gall fod yn fuddiol cael cytundeb gyda phartner masnachol fydd yn gyfrifol am arwain yr ymgyrch ymelwa. Trwyddedu yw’r ffordd fwyaf cyffredin o ymelwa ar ED. Mae’n caniatáu i’r perchennog gadw perchnogaeth ar y HED a thrwy hynny gadw mwy o reolaeth dros y broses ymelwa, a gellir cynyddu gwerth yr HED wrth wneud rhagor o ymchwil. Gall trwyddedau fod yn neilltuedig neu’n anneilltuedig, gellir eu cyfyngu gan e.e. amser, daearyddiaeth, a maes defnydd a gallant gynnwys talu cyfandaliadau a/neu freindaliadau i’r perchennog. Mae gwerthiant syml o HED yn golygu trosglwyddo perchnogaeth am un cyfandaliad. Gellir hefyd neilltuo’r HED i barti arall trwy gytundeb yn ymdrin â throsglwyddo perchnogaeth ac o bosibl trwy dalu cyfandaliad/au a/neu freindal. Prynwr neu aseinai eiddo deallusol sy’n gyfrifol am yr holl gostau sy’n gysylltiedig â gwarchod yr ED, e.e. talu costau patent a ffioedd adnewyddu. Gall WisH fod yn frocer i’r trefniadau hyn os oes angen.
Beth i’w wneud os ydych chi’n meddwl bod gennych arloesiad?
Ceisiwch gyngor proffesiynol gan Reolwr Ymchwil a Datblygu eich Ymddiriedolaeth neu WisH cyn cyhoeddi neu drafod manylion y arloesiad â neb nad yw’n gysylltiedig â’r gwaith ac nad yw’n ddarostyngedig i gytundeb cyfrinachedd. Efallai bydd eich ymgynghorydd yn awgrymu fel cam cyntaf y dylech lenwi Cofnod Arloesi/Dyfeisio. Bydd hyn yn cynnwys y manylion sylfaenol sydd eu hangen er mwyn darganfod a oes eiddo deallusol ar gael i’w warchod ac yn nodi ymchwil â photensial masnachol.
Cyfrinachedd
Mewn Ymddiriedolaethau GIG a Phrifysgolion prif nod ymchwil academaidd yn aml yw cyhoeddi a lledaenu gwybodaeth; yn yr achosion hyn gall fod yna wrthdaro uniongyrchol rhwng cyhoeddi a’r cyfrinachedd sydd ei angen er mwyn gwarchod ED neu warchod buddiannau partneriaid cydweithredol.
Mae cyfrinachedd yn bwysig pan:
- fydd ymchwil yn cael ei wneud dan drefniadau ariannu sy’n rhoi cyfrifoldebau cyfrinachedd ar y Brifysgol/Ymddiriedolaeth GIG.
- pan fydd cyfle i elwa wrth drosglwyddo canlyniadau cyfrinachol ymchwil i ddiwydiant a’r sector masnachol.
- os gellir cael patent ar arloesiad [nid yw’n bosibl cael patent yn y DG ar arloesiad sydd wedi bod ar gael i’r cyhoedd (yn y DG neu yn unman arall) trwy ei ddisgrifio’n ysgrifenedig neu ar lafar, trwy ei ddefnyddio neu mewn unrhyw ffordd arall
Dylai cytundebau cyfrinachedd fod yn weithredol cyn datgelu gwybodaeth gyfrinachol i gwmni naill ai yn gynnar mewn trafodaethau a all arwain at gydweithio ar ymchwil, neu wrth drafod trwyddedu eiddo deallusol. Defnyddir Cytundebau Datgelu Cyfrinachol (CDAau) yn aml iawn i amlinellu’r berthynas rhwng yr Ymddiriedolaeth GIG a chwmni neu unigolyn, pan fydd un parti’n datgelu gwybodaeth gyfrinachol i’r llall. Gall WisH ddarparu’r rhain os oes eu hangen.
Mae cadw gwybodaeth yn gyfrinachol hyd y gellir ei warchod trwy, er enghraifft, batent yn aml yn hanfodol wrth sefydlu cysylltiadau â diwydiant. Mae’n llawer iawn anos annog cwmni i ariannu neu drwyddedu technoleg os nad oes gan y cwmni fynediad breintiedig neu neilltuedig i’r gwaith ymchwil.
Sylwch
Mae’r rheolau sy’n rheoli HED, a phatentau yn enwedig, yn gymhleth iawn a bydd pob achos yn wahanol. Mae’r wybodaeth a ddarperir ar y wefan hon o reidrwydd yn gyffredinol ac ni ellir disgwyl iddi gynnwys pob enghraifft unigol. Mae’n bwysig cael cyngor arbenigol. Mae’r wybodaeth a gynhwysir ar y wefan hon ar gyfer arweiniad yn unig ac nid yw WisH a’i bartneriaid cysylltiedig yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw ddefnydd a wneir ohoni.