WIsH - Arloesedd Gofal lechyd Cymru
Hawl Cronfa Ddata
Mae hawl Cronfa Ddata yn hawl ategol i hawlfraint ac weithiau mae’n bodoli yn ogystal â hawlfraint e.e. ar gyfer tabl neu gronfa ddata sy’n rhestru diagnosau cleifion. Mae’r hawl yn cydnabod gwerth masnachol gwybodaeth. Gwarchodir strwythur cronfa ddata gan hawlfraint a gwarchodir y wybodaeth sydd mewn cronfa ddata gan hawl cronfa ddata. Mae hawl cronfa ddata yn hawl awtomatig (h.y. nid oes angen ei chofrestru ac mae’n para am 15 mlynedd o’r 1 Ionawr ar ôl cwblhau’r gwaith neu o’r 1 Ionawr ar ôl cyhoeddi, p’un bynnag sydd gyntaf. Bydd unrhyw newid sylweddol i’r gronfa ddata (e.e. diweddaru cofnodion) yn denu 15 mlynedd arall o warchodaeth yn erbyn copïo.
Perchnogaeth
Fel arfer lle mae gweithiwr wedi creu gwaith fel rhan o’i swydd, y cyflogwr fydd perchennog yr hawl cronfa ddata. Bydd hyn yn wir p’un a yw’r gwaith…