WIsH - Arloesedd Gofal lechyd Cymru
Hawlfraint
Mae hawlfraint yn hawl eiddo deallusol sy’n gwarchod ystod eang o ‘weithiau’ gan gynnwys gwaith ysgrifenedig megis canllawiau neu gyflwyniadau PowerPoint® Microsoft®, meddalwedd a chronfeydd data, lluniau, cerddoriaeth a gweithiau dramatig. Mae hawlfraint yn hawl awtomatig nad oes angen ei chofrestru'n ffurfiol na thalu amdani.
Felly, cyhyd â bod y gwaith yn wreiddiol, mae hawlfraint yn bodoli o’r eiliad y caiff y gwaith ei greu.
Mae cyfnod gwarchodaeth hawlfraint yn amrywio gan ddibynnu ar y math o waith e.e. 70 mlynedd ar ôl marw’r awdur i weithiau llenyddol; a 25 mlynedd o ddiwedd y flwyddyn galendr pan gafodd yr erthyglau eu masnachu gyntaf ar gyfer gweithiau sydd â hawlfraint artistig a gynhyrchir trwy broses ddiwydiannol.
Er bod hawlfraint yn bodoli fel hawl awtomatig pan gaiff gwaith ei greu, gellir defnyddio datganiad o hawlfraint i ddynodi perchnogaeth y gwaith a thynnu sylw eraill at yr hawl. Gall hyn fod yn fodd i atal copïo. Gellir dynodi perchnogaeth hawlfraint trwy ysgrifennu’r gair “hawlfraint” a / neu ddefnyddio’r symbol hawlfraint ynghyd â blwyddyn y creu ac enw perchennog yr hawlfraint. Dylai’r datganiad fod mewn lle amlwg ar y gwaith.
© Hawlfraint 2004 Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai ABC. Cedwir pob hawl. Ni cheir ei atgynhyrchu yn gyfan neu yn rhannol heb ganiatâd perchennog yr hawlfraint.
Mae hawlfraint yn bodoli ni waeth pa gyfrwng y’i crëwyd arno e.e. papur, meddalwedd, gwefannau neu ddeunydd electronig arall.
Perchnogaeth
Fel arfer lle mae gweithiwr wedi creu gwaith fel rhan o’i swydd, y cyflogwr fydd perchennog yr hawlfraint. Bydd hyn yn wir p’un a grewyd y gwaith yn ystod oriau gwaith neu beidio, neu y tu allan i’r gweithle
Er mai’r cyflogwr fydd perchennog yr hawlfraint, a thrwy hynny, yr hawl economaidd i elwa ar y gwaith, gall awdur a/neu greawdwyr y gwaith gael ei enwi (eu henwi) ar y gwaith a chael hawl i rannu'r budd sy’n dod o ddatblygu’r gwaith.
Mae gan y rhan fwyaf o Ymddiriedolaethau bolisi eiddo deallusol sydd ar gael gan yr Adran Ymchwil a Datblygu, ac sy’n rhoi rhagor o wybodaeth am rannu refeniw.