WIsH - Arloesedd Gofal lechyd Cymru


English Version

Ynglyn â WIsH

Arloesi mewn Gofal Iechyd yng Nghymru

WisH, Arloesi mewn Gofal Iechyd yng Nghymru, yw gwasanaeth rheoli arloesi’r GIG yng Nghymru.

Sefydlwyd WisH gan Lywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn darparu adnoddau ar gyfer adnabod ac ymelwa ar arloesiadau newydd a’u heiddo deallusol (ED) yn y GIG.

Nod WisH yw dod â manteision gofal iechyd i gleifion a gwelliannau i’r GIG ehangach trwy ddefnyddio hawliau eiddo deallusol a thrwy sicrhau y caiff syniadau arloesol ac enghreifftiau o arfer gorau eu gwerthuso a’u lledaenu trwy GIG Cymru.

Mae WisH hefyd yn hwyluso cysylltu a gweithio partneriaeth rhwng Ymddiriedolaethau GIG, academia a diwydiant ledled Cymru.

Ymhlith prif weithgareddau WisH mae:

  • Cynyddu’r ddealltwriaeth o arloesi yn y GIG a chynyddu ei bwysigrwydd.
  • Darparu hyfforddiant ar reoli arloesi a dulliau ymelwa.
  • Nodi arloesiadau sy’n bodoli eisoes yn y GIG a rhai newydd ac unrhyw ED cysylltiedig.
  • Asesu potensial ymarferol a/neu fasnachol arloesiadau'r GIG.
  • Darparu cefnogaeth arbenigol i’r broses o reoli arloesi a datblygu arloesiadau.
  • Gwarchod arloesiadau sydd â photensial masnachol sylweddol a’u ED cysylltiedig;
  • Darparu cyngor a chefnogaeth arbenigol er mwyn sicrhau trwyddedu’r ED a chreu cwmnïau deillio.